Ringland NP19 9HG - 313632 (Cym)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – Unedau 1.3 ac 1.4, Bloc 1, Canolfan Siopa Ringland, NP19, lle byddai’n dal i gael ei rhedeg yn null un o’n prif ganghennau, yn amodol ar ymgynghoriad.
Pam ydym yn cynnig y newid hwn?
Mae’r ardal lle mae ein cangen gyfredol yn cael ei hail-ddatblygu ac ni fydd yr adeilad ar gael wedyn at ddefnydd Swyddfa’r Post. Felly, bu'n rhaid i ni gael hyd i leoliad arall er mwyn parhau i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i'r gymuned leol.
Mae’n dda gennym ddweud fod y postfeistr wedi gweld cyfle i symud y gangen i leoliad newydd gerllaw lle bwriedir rhoi’r Ganolfan Siopa . Ein blaenoriaeth yw diogelu gwasanaethau Swyddfa’r Post yn y gymuned leol yn yr hirdymor a byddai adleoli Swyddfa Bost Ringland yn golygu gallem gadw gwasanaeth Swyddfa'r Post i’n cwsmeriaid yn y gymuned.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:
- Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
- Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
- Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
- Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)
Rhowch Eich Sylwadau i Ni
Diddordebau
- Consultation
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook