Porthmadog LL49 9AD - 181604 (Cym)

Yn cau 14 Awst 2025

Wedi agor 3 Gorff 2025

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – (siop Davies ar hyn o bryd) Fferyllfa Rowlands, 57-59 Y Stryd Fawr, Porthmadog, LL49 9LR, lle byddai’n dal i gael ei rhedeg yn null un o’n prif ganghennau, yn amodol ar ymgynghoriad.              

Pam ydym yn cynnig y newid hwn?

Yn anffodus, mae prydles y postfeistr ar gyfer yr adeilad presennol ar fin dod i ben ac ni fydd yr adeilad ar gael wedyn i’w ddefnyddio’n Swyddfa Bost. Am na fydd yr adeilad ar gael bellach at ddefnydd Swyddfa’r Post, mae’r postfeistr wedi gweld cyfle i symud y gangen hon i leoliad newydd er mwyn dal i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i'r gymuned leol. Byddai’r adeilad yn cael ei adnewyddu er mwyn cynnwys Fferyllfa Rowlands a Swyddfa Bost Porthmadog, yn amodol ar ymgynghoriad.

Ein blaenoriaeth yw diogelu gwasanaethau Swyddfa’r Post yn y gymuned leol yn yr hirdymor a byddai adleoli Swyddfa Bost Porthmadog yn golygu y byddem yn gallu cadw gwasanaeth Swyddfa'r Post i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol.

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Rhowch Eich Sylwadau i Ni

Diddordebau

  • Consultation