Pembroke Dock SA72 6DA - 408613 (Cym)

Ar gau 21 Mai 2021

Wedi'i agor 9 Ebr 2021

Canlyniadau wedi'u diweddaru 22 Gorff 2021

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd: Londis – Siop Dimond, 5-7 Stryd Dimond, Doc Penfro, SA72 6JA, lle bydd yn dal i gael ei rhedeg fel un o’n prif ganghennau.

Pam ydym yn symud?

Mae’r gweithredydd wedi ymddiswyddo ac ni fydd yr adeilad ar gael bellach i’w ddefnyddio’n Swyddfa Bost. Felly, bu’n rhaid i ni gael hyd i leoliad arall er mwyn parhau i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r gymuned leol. Rydym yn bwriadu symud i adeilad newydd a gaiff ei adnewyddu i gynnwys Swyddfa Bost yn cael ei rhedeg gan bostfeistr newydd. Ein blaenoriaeth yw diogelu ein gwasanaethau hirdymor a bydd adleoli Swyddfa Bost Doc Penfro yn golygu y gallwn gynnal gwasanaeth Swyddfa'r Post i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol.

Eich cangen Swyddfa'r Post newydd

Byddai cwsmeriaid yn gallu defnyddio gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn awyrgylch cynllun-agored ,ochr yn ochr â siop y gweithredydd. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i’r Swyddfa Bost. Bydd mewn rhan benodol o'r siop, a bydd ganddi un man gwasanaeth â sgrin a bydd un arall â chynllun agored. Byddai amrywiaeth eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post ar gael. Byddem hefyd yn ychwanegu til Swyddfa’r Post wrth gownter y siop a chynnig y rhan fwyaf o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post yn ystod oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae 95 y cant o gwsmeriaid yn hapus gyda’r mathau hyn o ganghennau.

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a hoffem gael eich barn am y cynllun. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau.

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.