Maesgeirchen LL57 1LT - 174604 (Cym)

Ar gau 16 Chwef 2023

Wedi agor 5 Ion 2023

Canlyniadau wedi'u diweddaru 4 Awst 2023

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – Siop Costcutter, 90 Rhodfa Penrhyn, Maesgeirchen, Bangor, LL57 1LT. 

Pam ydym yn cynnig y newid hwn?

Fel y gwyddoch efallai, cafodd y gangen hon ei rhedeg ar ein rhan gan bostfeistr rhan-amser. Mae'n dda gennym ddweud wrthych fod asiant newydd wedi cael ei benodi.  Dewisodd leoliad arall ar gyfer Swyddfa Bost Maesgeirchen lle byddai'n dal i gael ei rhedeg – yn amodol ar ymgynghoriad – fel un o’n canghennau lleol ffasiwn newydd.

Mae'r lleoliad newydd gerllaw ac ar hyn o bryd mae'r adeilad yn wag. Byddai'r gwaith o adnewyddu'r adeilad newydd yn cael ei gwblhau er mwyn cynnwys Siop Gyfleustra Costcutter a Swyddfa Bost Maesgeirchen mewn man goleuach, mwy o faint a mwy modern.

Ein blaenoriaeth yw diogelu ein gwasanaethau yn yr ardal yn yr hirdymor a byddai adleoli Swyddfa Bost Maesgeirchen yn golygu y gallem gadw gwasanaeth Swyddfa'r Post i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol.

Mae'n dda gennym gadarnhau y byddai'r gwasanaethau Symudol yn dal i gael eu rhedeg gan y gweithredydd newydd a byddent yn dal yr un fath.

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.