Llwyngwril LL37 2JX - 694470 (Cym)

Ar gau 25 Mai 2022

Wedi'i agor 13 Ebr 2022

Canlyniadau wedi'u diweddaru 24 Meh 2022

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn bwriadu ailagor Gwasanaeth Allgymorth Gwesteiol Swyddfa'r Post a nodir uchod mewn lleoliad newydd, sef Y Ganolfan, Ffordd Y Felin, Llwyngwril, LL37 2YX. 

Caeodd Gwasanaeth Allgymorth Gwesteiol Swyddfa’r Post Llwyngwril yn y lleoliad blaenorol Ddydd Mercher 30 Mawrth 2022, yn dilyn ymddiswyddiad y postfeistr ac am nad yw'r adeilad ar gael bellach at ddefnydd Swyddfa'r Post. Ers y cau, rydym wedi parhau i geisio cael hyd i ffordd o adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r gymuned leol. Felly, bu'n rhaid cael hyd i leoliad arall a pherson newydd i redeg Gwasanaeth Allgymorth Gwesteiol.

Mae'n bleser gennym roi gwybod i chi fod y postfeistr o Swyddfa Bost Y Friog yn fodlon darparu Gwasanaeth Allgymorth Gwesteiol i gymuned Llwyngwril mewn lleoliad newydd, sef Y Ganolfan, Ffordd y Felin, Llwyngwril, LL37 2YX, yn amodol ar ymgynghoriad.

 

 

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.