Criccieth Mobile Service LL52 0BU - 164604 (Cym)

Ar gau 23 Awst 2022

Wedi'i agor 26 Gorff 2022

Trosolwg

Yn Swyddfa’r Post rydym drwy’r amser yn chwilio am ffyrdd o adnewyddu ein rhwydwaith a gwneud yn siŵr ein bod yn ateb gofynion ein cwsmeriaid. Felly, mae’n dda gennym roi gwybod i chi ein bod hefyd yn bwriadu cyflwyno Gwasanaeth Allgymorth Symudol i gymuned Carmel.

Mae Gwasanaeth Symudol yn Swyddfa Bost deithiol mewn cerbyd pwrpasol sy’n dod â gwasanaethau a nwyddau manwerth Swyddfa’r Post i gymunedau lleol heb ddibynnu ar adeilad.

Mae'n dda gennym ddweud wrthych y bydd y Postfeistr o Swyddfa Bost Cricieth yn rhedeg y gwasanaeth Allgymorth Symudol newydd o Faes Parcio Neuadd y Pentref, Carmel, Caernarfon, LL54 7AA.  

Gallwn gadarnhau y bydd y gwasanaeth Allgymorth Symudol yn cychwyn dechrau ddydd  Gwener 29 Gorffennaf 2022 a bydd ar gael bob dydd Gwener rhwng 13:15 a 14:00.

Er mwyn cynnal y gwasanaeth Allgymorth Symudol newydd yng Ngharmel, gwnaethom newidiadau i oriau agor y gwasanaethau Allgymorth Symudol cyfredol ym Mhant-glas, Llithfaen, Clynnog Fawr, Y Fron a Rhosgadfan. Daw’r newidiadau hyn i rym oddydd Gwener 29 Gorffennaf 2022.

Byddwn yn dal i adolygu a monitro'r gwasanaethau drwy'r amser, a phe bai cynnydd sylweddol yn y defnydd o'r gwasanaeth, byddem yn ystyried newid yr oriau agor yn unol â hynny.

Sylwch fod y dyddiadau cyfagos yn ymwneud â'r cyfnod hysbysu ar gyfer y cyfathrebiad hwn yn unig. Mae'r llythyr gwybodaeth isod yn rhoi rhagor o fanylion am y gwasanaethau Symudol hyn.

Beth sy'n digwydd nesaf

Gobeithiwn y byddwch chi a'r gymuned leol yn cefnogi rhwydwaith Swyddfa'r Post yn eich ardal.