Criccieth Mobile & Outreach Service LL52 0BU - 164604 (Cym)

Ar gau 20 Gorff 2021

Wedi'i agor 22 Meh 2021

Canlyniadau wedi'u diweddaru 3 Awst 2021

Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Er mwyn dal i ddarparu gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r cymunedau, pan nad oedd modd defnyddio’r adeiladau yn ystod Covid, cafodd Gwasanaeth Symudol ei gyflwyno gennym yn Llanbedr a Thal-y-sarn. Bydd y Gwasanaeth Symudol yn Llanbedr yn dod i ben ddydd Llun 21  Mehefin 2021 a bydd y Gwasanaeth Symudol yn Nhal-y-sarn yn dod i ben ddydd  Mercher 23 Mehefin 2021.  

Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y byddwn yn adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r cymunedau uchod trwy gyflwyno Gwasanaeth Allgymorth Gwesteiol. Mae'n ddrwg gennym am unrhyw anhwylustod pan fu cau dros dro.

Eich gwasanaeth Swyddfa'r Post newydd

Bydd Gwasanaeth Allgymorth Gwesteiol Llanbedr yn agor mewn lleoliad newydd, sef Deli ac Ystafelloedd Te Wenallt, ddydd Mercher 30 Mehefin 2021.

Bydd Gwasanaeth Allgymorth Gwesteiol Tal-y-sarn yn agor yn y lleoliad blaenorol, sef Canolfan Gymuned Tal-y-sarn, ddydd Llun 28 Mehefin 2021.

Yn dilyn cau Swyddfa Bost Ffestiniog dros dro, byddwn yn adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r gymuned trwy gyflwyno Gwasanaeth Symudol dros dro wrth i ni ddal i chwilio am ateb parhaol. Bydd y Gwasanaeth Symudol yn dechrau ddydd Llun 28  Mehefin 2021.

Yn Swyddfa’r Post rydym drwy’r amser yn chwilio am ffyrdd o adnewyddu ein rhwydwaith a gwneud yn siŵr ein bod yn ateb gofynion ein cwsmeriaid. Felly, mae’n dda gennym roi gwybod i chi ein bod hefyd yn bwriadu cyflwyno Gwasanaeth Symudol newydd i gymunedau Llanystumdwy a Gellilydan. Bydd y Gwasanaeth Symudol newydd yn Llanystumdwy yn dechrau ddydd Mawrth 29 Mehefin 2021 a bydd y Gwasanaeth Symudol yng Ngellilydan yn dechrau ddydd Llun 28 Mehefin 2021.

Mae’n dda gennym roi gwybod i chi fod y Postfeistr o Swyddfa Bost Cricieth yn barod i redeg y Gwasanaethau Symudol a’r Gwasanaethau Allgymorth Gwesteiol, sef y ffordd orau bosibl o adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r cymunedau hyn.

Er mwyn gallu cynnal y Gwasanaethau Symudol a’r Gwasanaethau Allgymorth Gwesteiol, bydd rhai newidiadau i’r  gwasanaethau presennol yn Efailnewydd, Llanaelhaearn, Bryncir, Llithfaen, Pant-glas, Clynnog Fawr, Aber-erch, Minffordd, Borth-y-gest, Nasareth, Llanfrothen, Garndolbenmaen, Llanllyfni, Y Fron, Rhosgadfan, Llangybi, Edern a Thalsarnau o’r wythnos yn dechrau ddydd Llun 28 Mehefin 2021.

Rydym yn monitro nifer y cwsmeriaid sy'n defnyddio gwasanaethau Swyddfa'r Post yn gyson ac rydym yn hyderus y bydd ein newidiadau arfaethedig yn cael eu croesawu gan ein cwsmeriaid yn y cymunedau lleol.

Rydym yn awyddus i adfer gwasanaethau i'r gymuned hon cyn gynted â phosibl felly rydym nawr yn symud ymlaen gyda'r cynlluniau hyn. Fodd bynnag, byddem yn croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau penodol ar y newid megis trefniadau mynediad a'r cynllun mewnol.

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am eich cefnogaeth i adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post i'r cymunedau lleol.