Criccieth Mobile & Outreach Service LL52 0BU - 164604 (Cym)

Ar gau 23 Awst 2023

Wedi agor 26 Gorff 2023

Canlyniadau wedi'u diweddaru 26 Hyd 2023

Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gwasanaethau Symudol ac Allgymorth.

Ffeiliau:

Trosolwg

Mae Swyddfa'r Post wedi cynnal adolygiad cynhwysfawr o'r rhwydwaith o ganghennau i sicrhau ei fod yn parhau i ddiwallu anghenion esblygol cwsmeriaid ac rydym yn gwneud rhai newidiadau i wasanaeth Swyddfa'r Post Allgymorth Talysarn a ddarperir gan y postfeistr o Swyddfa Bost Cricieth.

Eich gwasanaeth Swyddfa'r Post newydd

Bydd y gwasanaeth Allgymorth presennol sy’n gweithredu o Ganolfan Gymunedol Talysarn, Ffordd yr Orsaf, Talysarn, Caernarfon, LL54 6HL, yn dod i ben o ddydd Iau 17 Awst 2023 am 16:00, ac rydym yn cyflwyno gwasanaeth Symudol. Bydd y gwasanaeth Symudol hwn yn gweithredu o'r un lleoliad ym Maes Parcio Canolfan Gymunedol Talysarn, Ffordd yr Orsaf, Talysarn, Caernarfon, LL54 6HL, gydag oriau agor newydd, yn dechrau o ddydd Mawrth 22 Awst 2023 am 10:45.

Mae'r Gwasanaeth Symudol yn Swyddfa Bost deithiol ar fwrdd cerbyd a ddyluniwyd yn benodol sy'n dod â gwasanaethau Swyddfa'r Post a chynhyrchion manwerthu i gymunedau heb ddibynnu ar eiddo sefydlog sydd wedi bod yn rhan o'n rhwydwaith gweithredol ers rhai blynyddoedd bellach.

 

Rydym hefyd wedi gwneud rhai mân newidiadau i oriau a lleoliad gwasanaethau Allgymorth yn yr un ardal leol ac mae'r llythyr gwybodaeth isod yn rhoi rhagor o fanylion am hyn.

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am eich cefnogaeth.