City Of Cardiff CF10 2BY - 026611 (Cym)

Ar gau 12 Rhag 2018

Wedi'i agor 31 Hyd 2018

Canlyniadau wedi'u diweddaru 30 Ion 2019

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Ein bod yn bwriadu symud Swyddfa’r Post Dinas Caerdydd i leoliad newydd - WHSmith, 83-85 Stryd y Frenhines, Caerdydd, CF10 2NX a’i henw fydd Swyddfa’r Post Caerdydd. Os bydd y gangen yn symud, fe’i rhedir gan WHSmith High Street Cyf, gydag oriau agor hirach gan gynnwys dydd Sul.

Mae symud y gangen yn rhan o’r moderneiddio parhaus a wnawn ar ein rhwydwaith o ganghennau. Credwn mai’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu hyfywedd hirdymor gwasanaethau Swyddfa’r Post yng Nghaerdydd yw drwy bartner manwerthu a ddewiswyd yn ofalus ac rydym yn hyderus mai ein cynllun ni yw’r ffordd orau o ddiogelu gwasanaethau i’r gymuned am flynyddoedd lawer. Gweithredir y rhan fwyaf o ddigon o’n 11,600 cangen Swyddfa’r Post, boed bach neu fawr,  yn y ffordd hon gyda phartneriaid manwerthu a chredwn mai dyma’r dull gorau ar gyfer cadw Swyddfeydd Post yn y prif leoliadau siopa ac yng nghanol cymunedau lle maent yn chwarae rhan bwysig yn yr economi leol.

 

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.