Abergavenny NP7 5EB - 017632 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 28 Hyd 2022
Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Abergavenny NP7 5EB - Decison (Cym).pdf, 212.3 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd, sef Ryman, 17A Rhodfa Cibi, Stryd Frogmore, Y Fenni, NP7 5AJ ac, yn amodol ar ymgynghoriad, bydd yn dal i gael ei rhedeg fel un o'n prif ganghennau
Pam ydym yn cynnig y newid hwn?
Mae'r brydles yn ein hadeilad cyfredol yn dod i ben ym mis Ebrill 2023, ac rydym wedi cael hyd i leoliad arall er mwyn dal i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i'r gymuned leol. Cafodd y swydd wag ei hysbysebu, ac mae'n dda gennym ddweud fod partner manwerth newydd wedi cael ei benodi i redeg Swyddfa Bost Y Fenni.
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Byddai cwsmeriaid yn gallu defnyddio gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn awyrgylch cynllunagored ochr yn ochr â siop y gweithredydd. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i’r Swyddfa Bost Byddai mewn rhan benodol o'r siop gyda dau fan â sgrin
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:
- Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
- Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
- Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
- Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook