Wepre CH5 4DD - 355614 (Cym)

Ar gau 10 Ion 2025

Wedi agor 29 Tach 2004

Canlyniadau wedi'u diweddaru 19 Chwef 2025

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn cynnig symud y gangen uchod o Swyddfa’r Post i leoliad newydd - 15 Chester Road West, Shotton Cei Conna, Glannau Dyfrdwy, CH5 1DF, (hen fanc y Natwest), lle byddai’n gweithredu fel un o’n prif ganghennau a byddai’n cael ei alw’n Swyddfa Bost Shotton, yn dibynnu ar ymgynghoriad.

Pam ydym yn cynnig y cam hwn?

Fel y gwyddoch, mae ein Partneriaid yn gweithredu canghennau Swyddfa’r Post ar y cyd â’u busnesau manwerthu preifat, ac mae’n bwysig eu bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o’u hadnoddau i sicrhau cynaliadwyedd eu busnes a gwasanaeth Swyddfa’r Post i’r dyfodol. Yn yr achos hwn, mae’r postfeistr wedi nodi cyfle i symud y gangen hon i leoliad amgen er mwyn parhau i gynnig gwasanaethau Swyddfa’r Post i’r gymuned leol.

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.

Diddordebau

  • Consultation