Wepre CH5 4DD - 355614 (Cym)
Trosolwg
Rydym yn cynnig symud y gangen uchod o Swyddfa’r Post i leoliad newydd - 15 Chester Road West, Shotton Cei Conna, Glannau Dyfrdwy, CH5 1DF, (hen fanc y Natwest), lle byddai’n gweithredu fel un o’n prif ganghennau a byddai’n cael ei alw’n Swyddfa Bost Shotton, yn dibynnu ar ymgynghoriad.
Pam ydym yn cynnig y cam hwn?
Fel y gwyddoch, mae ein Partneriaid yn gweithredu canghennau Swyddfa’r Post ar y cyd â’u busnesau manwerthu preifat, ac mae’n bwysig eu bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o’u hadnoddau i sicrhau cynaliadwyedd eu busnes a gwasanaeth Swyddfa’r Post i’r dyfodol. Yn yr achos hwn, mae’r postfeistr wedi nodi cyfle i symud y gangen hon i leoliad amgen er mwyn parhau i gynnig gwasanaethau Swyddfa’r Post i’r gymuned leol.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:
- Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
- Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
- Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
- Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.
Diddordebau
- Consultation
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook