Usk NP15 1BQ - 439632(Cym)

Ar gau 7 Mai 2019

Wedi'i agor 26 Maw 2019

Canlyniadau wedi'u diweddaru 24 Mai 2019

The letter below confirms our final plans for the branch.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd, sef Llyfrgell a Chanolfan Gymuned Brynbuga, 35 Stryd Maryport, Brynbuga, NP15 1AE. 

Pam ydym yn symud?

Mae’r postfeistr presennol wedi ymddiswyddo a bydd y gangen yn cau ddydd Dyddlau 25 Ebrill 2019. Felly, mae’n dda gennyf allu dweud wrthych fod gweithredydd newydd wedi ei benodi, gan roi cyfle i gael gwasanaethau Swyddfa’r Post yn Llyfrgell a Chanolfan Gymuned Brynbuga. Er mwyn osgoi colli gwasanaeth, mae’r gangen newydd i fod i agor ddydd Mercher 1 Mai 2019 am 13:00; fodd bynnag, ni fydd hyn yn amharu ar yr ymgynghoriad cyhoeddus lleol, a fydd yn para tan ddydd Gwener 10 Mai 2019.

Eich cangen Swyddfa'r Post newydd

Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu dyluniad presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosoda’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i’r Swyddfa Bost. Bydd dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post ar gael yn y gangen.

 

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a hoffem gael eich barn am y cynllun. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau.

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.