Uplands SA2 0HD - 465642 (Cym)

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd: 29 Cilgant Uplands (a arferai fod yn Rainbow), Uplands, SA2 0NX, lle bydd yn dal i gael ei rhedeg yn null un o’n prif ganghennau, yn amodol ar ymgynghoriad.

Pam ydym yn argymell y symud hwn?

Fel y gwyddoch efallai, mae ein postfeistri yn rhedeg canghennau Swyddfa'r Post ochr yn ochr a’u busnesau manwerth preifat, ac mae’n bwysig eu bod yn gwneud y defnydd gorau posibl o’u hadnoddau er mwyn sicrhau cynaliadwyedd eu busnes a’r gwasanaeth Swyddfa Bost yn y dyfodol. Yn yr achos hwn, mae’r postfeistr wedi gweld cyfle i symud y gangen hon i leoliad newydd er mwyn parhau i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i'r gymuned leol.

Byddai’r adeilad arfaethedig, sydd ar hyn o bryd yn wag, yn cael ei adnewyddu er mwyn cynnwys siop gyfleustra a Swyddfa Bost Uplands.  Mae’r postfeistr o’r farn y byddai’r symud hwn yn help i ddiogelu mynediad i wasanaethau Swyddfa'r Post yn lleol tra’n cynnal hyfywedd eu busnes. Ein blaenoriaeth yw diogelu ein gwasanaethau yn y gymuned yn yr hirdymor, a byddai adleoli Swyddfa Bost Uplands yn caniatáu i ni barhau i ddarparu gwasanaeth Swyddfa Bost i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol.

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Rhowch Eich Sylwadau i Ni

Yn cau 1 Rhag 2026

Wedi agor 20 Hyd 2026

Diddordebau

  • Consultation