Tregynon Outreach Services SY16 3EL - 183644 (Cym)
Trosolwg
Ailagor a newidiadau i Wasanaethau Allgymorth Yr Hob a Glantwymyn.
Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y byddwn, yn dilyn cau gwasanaethau allgymorth Yr Hob ym mis Chwefror 2025 a Glantwymyn ym mis Mai 2025, yn adfer gwasanaethau Swyddfa’r Post i’r cymunedau hyn drwy gyflwyno gwasanaeth Symudol ag oriau agor newydd.
Bydd Gwasanaeth Symudol Yr Hob yn cael ei redeg o’r maes parcio yn y lleoliad blaenorol yn Neuadd Bentref Yr Hob, Yr Hob, Minsterley, SY5 0JB, gan y Postfeistr o Swyddfa Bost Tregynon, gan ddechrau ddydd Iau 3 Gorffennaf 2025 am 10:15.
Bydd Gwasanaeth Symudol Glantwymyn yn cael ei redeg o faes parcio Gwesty Dovey Valley, Glantwymyn, Machynlleth, SY20 8JZ, gan y Postfeistr o Swyddfa Bost Tregynon, gan ddechrau ddydd Mawrth 1 Gorffennaf 2025 am 10:00.
Er mwyn gallu cynnal y gwasanaethau symudol newydd, bydd rhai newidiadau'n cael eu gwneud i oriau agor presennol Gwasanaeth Symudol Sarn a Gwasanaeth Symudol Cemais. Daw'r newidiadau hyn i rym o’r wythnos sydd yn dechrau ddydd Llun 30 Mehefin 2025.
Pam bod eich barn yn bwysig
Hoffem i chi ddweud wrthym beth ydych chi'n ei feddwl am addasrwydd y lleoliad newydd arfaethedig.
Give Us Your Views
Diddordebau
- Engagement
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook