Trawsfynydd LL41 4SF - 279222 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 28 Hyd 2024
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Trawsfynydd LL41 4SF - Decision (Cym), 137.9 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu symud y gwasanaeth Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – (a oedd yn arfer bod yn Llys Ednowain Group Accommodation, Hostel Llys Ednowain), Trawsfynydd, Blaenau Ffestiniog, LL41 4UB.
Pam ydym yn cynnig y newid hwn?
Cafwyd cyfle i adleoli'r gangen mewn adeilad gerllaw sydd yn fwy modern ac yn fwy o faint. Byddai'r symud yn golygu y byddai modd o hyd i gyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post yn lleol a byddai hefyd yn sicrhau hyfywedd hirdymor Swyddfa'r Post i'r gymuned yn Nhrawsfynydd.
Byddai'r adeilad newydd, sydd ar hyn o bryd yn wag, yn cael ei adnewyddu’n llwyr er mwyn cynnwys siop gyfleustra a Swyddfa Bost Trawsfynydd. Yn amodol ar ymgynghoriad, byddai'r gangen yn dal i gynnig yr un dewis o gynhyrchion a gwasanaethau a'r un oriau agor.
Ein blaenoriaeth yw diogelu ein gwasanaethau yn yr ardal yn yr hirdymor a byddai adleoli Swyddfa Bost Trawsfynydd yn golygu y gallem gadw gwasanaeth Swyddfa'r Post i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:
- Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
- Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
- Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
- Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook