Ton Pentre CF41 7LR - 522611(Cym)

Ar gau 12 Tach 2020

Wedi'i agor 1 Hyd 2020

Canlyniadau wedi'u diweddaru 25 Tach 2020

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Fe symudon ni’r gangen uchod o Swyddfa’r Post i leoliad newydd - 27 Church Road, Ton Pentre, Pentre, CF41 7EB - ar 30 Medi 2020. Mae’n flin gyda ni am roi gwybod i chi mor hwyr y tro hwn.

Pam rydyn ni wedi symud?

Fel y gwyddoch, mae ein partneriaid a’n hasiantau’n gweithredu canghennau Swyddfa’r Post ochr yn ochr â’u busnes manwerthu preifat ac mae’n bwysig iddynt wneud y defnydd gorau posibl o’u hadnoddau er mwyn medru cynnal gwasanaethau Swyddfa’r Post yn y dyfodol. Yn yr achos hwn, nid oedd yr adeilad blaenorol bellach ar gael i Swyddfa’r Post  ac felly fe symudodd ein postfeistr ei fusnes i’r adeilad newydd. Mae ein hasiant o’r farn bendant bod symud wedi helpu i ddiogelu hyfywedd y busnes gan gynnwys busnes Swyddfa’r Post a’i fod wedi eu galluogi i gynnal gwasanaeth Swyddfa’r Post ar gyfer cwsmeriaid yn y gymuned leol.

 

 

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a hoffem gael eich barn am y cynllun. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau.

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.