Tenby SA70 7JR - 332613 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 27 Mai 2020
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Tenby SA70 7JR Decision (Cym), 394.2 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd: Premier Stores (Hen Glwb y Cyn-filwyr), Tŷ Rhiwabon, Rhodfa’r De, Dinbych-Y-Pysgod, SA70 7DL.
Pam rydyn ni'n symud?
Fel y gwyddoch, mae ein Postfeistri yn rhedeg canghennau Swyddfa'r Post ochr yn ochr â’u siopau preifat, ac mae’n bwysig iddynt wneud y defnydd gorau o’u hadnoddau i wneud yn siŵr fod eu busnes a’r gwasanaeth Swyddfa'r Post yn llwyddo. Yn yr achos hwn, mae’r Postfeistr wedi gweld cyfle i symud y gangen hon i adeilad mwy o faint a mwy modern. Mae ein Postfeistr yn credu’n gryf y bydd y symud yn helpu i gadw mynediad i wasanaethau Swyddfa'r Post yn lleol, yn ogystal a chefnogi hyfywedd eu busnes.
Bydd yr adeilad newydd yn cael ei adnewyddu’n helaeth er mwyn cynnwys siop gyfleustra a Swyddfa Bost Dinbych-y-pysgod. Mae’n dda gennym roi gwybod i chi y bydd y Postfeistr presennol yn dal i redeg y gwasanaeth hwn o’r adeilad newydd a bydd yn darparu’r un dewis eang o cynhyrchion a gwasanaethau gydag oriau agor estynedig. Bydd adleoli Swyddfa Bost Dinbych-y-pysgod yn golygu y gallwn gynnal gwasanaeth Swyddfa’r Post yn y gymuned leol.
Eich cangen newydd o Swyddfa'r Post
Byddai cwsmeriaid yn gallu defnyddio gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn awyrgylch cynllun-agored ochr yn ochr â siop y gweithredydd. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i’r Swyddfa Bost. Bydd mewn rhan benodol o'r siop, a bydd ganddi un man gwasanaeth â sgrin a dau arall â chynllun agored. Byddai’r dewis llawn o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post ar gael. Byddem hefyd yn ychwanegu til Swyddfa’r Post wrth gownter y siop sy’n cynnig y rhan fwyaf o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post yn ystod oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae 95 y cant o gwsmeriaid yn hapus gyda’r mathau hyn o ganghennau.
Mae’r gangen Swyddfa'r Post bresennol i fod i gau ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020 am 17:30 a bydd eich gwasanaeth Swyddfa'r Post ar ei newydd wedd yn agor yn Premier Stores, Tŷ Rhiwabon, ddydd Gwener 27 Mawrth 2020 am 09:00. Os bydd unrhyw newidiadau nas gellir eu rhagweld, bydd posteri yn cael eu rhoi yn y gangen a’r adeilad newydd i roi gwybod i gwsmeriaid.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ac rydym yn hoffi eich barn ar y mynediad a'r cynnig gwasanaeth yn y lleoliad newydd. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am ystyried ein cynlluniau. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a gawn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook