Rhymney NP22 5LP - 263632 (Cym)

Canlyniadau wedi'u diweddaru 15 Meh 2018

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Ar gau 23 Mai 2018

Wedi agor 11 Ebr 2018

Trosolwg

Rwy’n ysgrifennu atoch i roi gwybod ein bod yn bwriadu ailagor y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – Nisa, 61 Y Stryd Fawr, Rhymni, NP22 5LP. Felly, mae’n dda gennyf roi gwybod i chi fod gweithredwr newydd wedi’i benodi a bydd nawr yn rhedeg y gangen o'r lleoliad newydd hwn.
 
Fel y gwyddoch efallai, caeodd y gangen flaenorol dros dro ym mis Gorffennaf 2017 yn dilyn ymddiswyddiad y Postfeistr ac am nad oedd yr adeilad ar gael wedyn i'w ddefnyddio'n Swyddfa Bost. Rydym nawr mewn sefyllfa i adfer gwasanaeth i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol.
 

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.