Rhyl LL18 1ET - 664614 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 23 Meh 2023
Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Rhyl LL18 1ET - Decision (Cym), 272.6 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – Marchnad Fach Y Rhyl, 11 Stryd Bodfor, Y Rhyl, LL18 1AS ac, yn amodol ar ymgynghoriad, bydd yn cael ei rhedeg fel un o’n canghennau lleol eu natur.
Pam ydym yn cynnig y newid hwn?
Ein blaenoriaeth yw diogelu ein gwasanaethau yn y gymuned leol yn yr hirdymor. Ar hyn o bryd mae'r gangen hon yn cael ei rhedeg dan gytundeb byrdymor, ac rydym wedi ceisio cael ateb mwy cynaliadwy. Felly, rydym yn bwriadu symud y gangen hon i leoliad arall. Mae'n dda gennym ddweud wrthych fod asiant newydd wedi cael ei benodi i redeg Swyddfa Bost Y Rhyl o'r lleoliad newydd uchod, yn amodol ar ymgynghoriad.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:
- Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
- Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
- Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
- Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook