Raglan NP15 2DY - 259632 (Cym)

Ar gau 21 Meh 2024

Wedi'i agor 10 Mai 2024

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd -  Garej Gulf, Y Stryd Fawr, Rhaglan, Brynbuga, NP15 2DY lle câi ei rhedeg fel un o’n canghennau lleol ffasiwn newydd.

Pam ydym yn cynnig y newid hwn?

Mae'r Postfeistr presennol wedi ymddiswyddo, ac ni fydd yr adeilad ar gael  i’w ddefnyddio’n Swyddfa Bost. Mae’n dda gennyf gadarnhau y cafwyd hyd i asiant newydd sydd yn bwriadu adleoli’r Swyddfa Bost hon yn eu hadeilad gerllaw sydd newydd gael ei adnewyddu, a byddai’n cynnwys y Swyddfa Bost, yn amodol ar ymgynghoriad.

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.

Diddordebau

  • Consultation