Porthyfelin LL65 1AU - 256604 (Cym)

Ar gau 5 Mai 2023

Wedi agor 24 Maw 2023

Canlyniadau wedi'u diweddaru 17 Medi 2024

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – Bar Caffi Siop y Marina, Marina Caergybi, Traeth Newry, Caergybi, LL65 1YA, lle bydd yn dal i gael ei rhedeg gan y postfeistr presennol.

Pam ydym yn cynnig y newid hwn?

Fel y gwyddoch, mae ein Postfeistri yn rhedeg canghennau Swyddfa'r Post ochr yn ochr â’u siopau preifat, ac mae’n bwysig iddynt wneud y defnydd gorau o’u hadnoddau i wneud yn siŵr fod eu busnes a’r gwasanaeth Swyddfa'r Post yn llwyddo. Yn yr achos hwn, mae'r postfeistr wedi gweld cyfle i symud y gangen hon i adeilad goleuach a mwy modern, gyda gwell mynediad, yn agos i lan y môr yng Nghaergybi. Yn amodol ar ymgynghoriad, byddai'r adeilad newydd yn cynnwys Swyddfa Bost Porthyfelin y tu mewn i adeilad Bar Caffi Siop y Marina.

Ein blaenoriaeth yw diogelu gwasanaethau Swyddfa’r Post i’r gymuned leol yn yr hirdymor. Mae ein Postfeistr yn credu’n gryf y bydd y symud yn helpu i ddiogelu mynediad i wasanaethau Swyddfa'r Post yn lleol, yn ogystal a chefnogi hyfywedd eu busnes.  A bydd yn dal i ddarparu’r un cynhyrchion, gwasanaethau ac oriau agor yn y Swyddfa Bost.

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.