Porth CF39 9RA - 530611 (Cym)

Ar gau 23 Chwef 2024

Wedi'i agor 12 Ion 2024

Canlyniadau wedi'u diweddaru 9 Mai 2024

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn cynnig symud y gangen Swyddfa’r Post uchod i leoliad newydd: 14 - 15 Stryd, Y Porth, CF39 9PU, lle byddai’r gangen yn cael ei rhedeg gan y postfeistr cyfredol.

Pam ydym yn cynnig y newid hwn?

Fel y gwyddoch, mae ein Postfeistri yn rhedeg canghennau Swyddfa'r Post ochr yn ochr â’u siopau preifat, ac mae’n bwysig iddynt wneud y defnydd gorau o’u hadnoddau i wneud yn siŵr fod eu busnes a’r gwasanaeth Swyddfa'r Post yn llwyddo. Yn yr achos hwn, mae’r postfeistr wedi gweld cyfle i symud y gangen hon i adeilad newydd mwy o faint ar yr un heol gerllaw. Yn amodol ar ymgynghoriad, byddai'r gangen yn dal i gynnig yr un dewis o gynhyrchion a gwasanaethau a'r un oriau agor.

Byddai'r adeilad newydd, sydd ar hyn o bryd yn wag,  yn cael ei adnewyddu’n llwyr er mwyn cynnwys siop gyfleustra a Swyddfa Bost Y Porth. Mae’r Postfeistr yn credu’n gryf y byddai’r symud yn helpu i gadw gwasanaethau Swyddfa'r Post yn lleol, yn ogystal â chefnogi hyfywedd eu busnes.

Ein blaenoriaeth yw diogelu ein gwasanaethau yn yr ardal yn yr hirdymor a byddai adleoli Swyddfa Bost Y Porth yn golygu y byddem yn gallu cadw gwasanaeth Swyddfa'r Post i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol.

 

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.

Diddordebau

  • Consultation