Pontycymmer CF32 8DA - 344611 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 12 Ebr 2023
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Pontycymmer CF32 8DA - Decision (Cym), 236.4 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd - Smart Lettings, 50A Stryd Rhydychen, Pontycymer, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 8DB, lle câi ei rhedeg fel un o’n canghennau lleol ffasiwn newydd.
Pam ydym yn cynnig y newid hwn?
Rydym yn bwriadu gwneud y newid hwn fel rhan o’r gwaith o foderneiddio ein rhwydwaith o ganghennau. Rydym yn hyderus taw cael cangen leol ei natur ochr yn ochr â siop lwyddiannus yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post cynaliadwy yn y gymuned leol yn y dyfodol.
Fel y gwyddoch efallai, cafodd y gangen hon ei rhedeg ar ein rhan gan bostfeistr rhan-amser. Er bod y trefniad hwn wedi golygu y bu modd i ni gynnal mynediad i wasanaethau Swyddfa'r Post ar gyfer ein cwsmeriaid yn yr ardal, rydym nawr wedi cael hyd i leoliad arall er mwyn parhau i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i'r gymuned leol.
Mae'n dda gennym ddweud wrthych y cafodd asiant newydd ei benodi a byddai'n rhedeg y gwasanaeth Swyddfa'r Post o'r adeilad newydd.
Ein blaenoriaeth yw diogelu ein gwasanaethau yn yr ardal yn yr hirdymor a byddai adleoli Swyddfa Bost Pontycymer yn golygu y byddem yn gallu cadw gwasanaeth Swyddfa'r Post i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:
- Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
- Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
- Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
- Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook