Pontardulais SA4 8RA - 253642(Cym)

Ar gau 6 Medi 2018

Wedi agor 9 Awst 2018

Canlyniadau wedi'u diweddaru 18 Rhag 2018

Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn siarad â’r postfeistr ynghylch newid y Swyddfa Bost uchod i’w gwneud yn un o’n canghennau lleol ffasiwn newydd. Hoffem gael eich barn am y newidiadau cyn i ni wneud ein penderfyniadau terfynol.

Rydym yn bwriadu gwneud y newidiadau fel rhan o’r gwaith i foderneiddio ein rhwydwaith o ganghennau. Dros y pum mlynedd diwethaf rydym wedi trawsnewid dros 7,500 o ganghennau fel bod mwy o gwsmeriaid yn gallu cyrchu cynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn amgylchedd modern a chyfeillgar. Rydym yn hyderus taw cael cangen leol ochr yn ochr â siop lwyddiannus yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post cynaliadwy yn y gymuned leol yn y dyfodol.

Eich cangen Swyddfa'r Post newydd

Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gweini modern â chynllun agored sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen. Bydd dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post ar gael yn y gangen. Mae 96 y cant o gwsmeriaid yn hapus gyda’r math hwn o Swyddfa Bost.