Phillipstown NP24 6AY - 250632 (Cym)

Yn cau 9 Mai 2024

Wedi'i agor 28 Maw 2024

Trosolwg

Rydym yn bwriadu ailagor y gangen Swyddfa'r Post uchod mewn lleoliad newydd - 34 Stryd Jones, Phillipstown, Tredegar Newydd, NP24 6BB, lle byddai’n cael ei rhedeg fel un o’n canghennau lleol eu natur, yn amodol ar ymgynghoriad.

Pam ydym yn argymell ailagor fel hyn?

Oherwydd amgylchiadau nas rhagwelwyd caeodd y gangen uchod ym mis Chwefror 2024.  Felly, bu'n rhaid i ni gael hyd i leoliad arall er mwyn parhau i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i'r gymuned leol. Mae'n dda gennym ddweud wrthych y penodwyd rhywun arall i redeg y gangen , mewn lleoliad gwahanol.

Ein blaenoriaeth yw diogelu ein gwasanaethau yn yr ardal yn yr hirdymor a byddai ailagor Swyddfa Bost Phillipstown yn golygu y byddem yn gallu cadw gwasanaeth Swyddfa'r Post i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol.

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Rhowch Eich Sylwadau i Ni

Diddordebau

  • Consultation