Penywaun CF44 9HD - 439611(Cym)

Ar gau 28 Ion 2020

Wedi'i agor 17 Rhag 2019

Canlyniadau wedi'u diweddaru 11 Chwef 2020

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen uchod o Swyddfa’r Post i leoliad newydd – Penywaun Newsagents, 7 Canolfan Siopa, Penywaun, Aberdâr, CF44 9HD. Os digwydd hyn, ac yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus, bydd yn newid i un o’n canghennau yn y dull lleol newydd.

Pam ein bod ni’n symud?

Rydym yn bwriadu symud y gangen fel rhan o’r moderneiddio parhaus ar ein rhwydwaith o ganghennau. Rydym yn ffyddiog mai cyflwyno cangen yn y dull lleol newydd ochr yn ochr â siop fanwerthu lwyddiannus yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa’r Post cynaliadwy yn y gymuned leol yn y dyfodol.

Eich cangen newydd o Swyddfa’r Post

Byddai cwsmeriaid yn cyrraedd gwasanaethau Swyddfa’r Post wrth fan gwasanaethu modern, cynllun-agored gyda sgrîn isel sydd yn rhan o’r cownter manwerthu. Trwy weithio gyda’r postfeistr, byddem yn addasu cynllun presennol y siop a’r gosodiadau  er mwyn cynnwys til Swyddfa’r Post os bydd angen. Bydd y gangen yn cynnig ystod eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa’r Post ar draws oriau agor hirach fel y bydd cwsmeriaid yn medru cyrraedd Swyddfa’r Post pan fo’n gyfleus. Mae bodlonrwydd cwsmeriaid gyda’r canghennau yn y dull lleol wedi cyrraedd 96 y cant ac mae bron i 20 y cant o  gwsmeriaid y canghennau yn y dull lleol yn mynd yno y tu allan i oriau agor traddodiadol.

 

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a hoffem gael eich barn am y cynllun. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau.

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.