Overton LL13 0EE (Cym) - 629471
Canlyniadau wedi'u diweddaru 25 Awst 2020
Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Overton LL13 0EE - Update Information Letter, 284.4 KB (PDF document)
- Overton LL13 0EE - Information Poster, 208.3 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod am adleoli gwasanaeth Swyddfa'r Post Owrtyn.
Bydd Postfeistr newydd yn rhedeg y gwasanaeth Swyddfa’r Post uchod o Feddygfa Owrtyn, 15 Y Stryd Fawr, Wrecsam, LL13 0ED. Bydd y gwasanaeth hwn yn dechrau ddydd Llun 3 Chwefror 2020 am 13:00 a bydd y gwasanaeth Swyddfa’r Post presennol yn neuadd y pentref yn dod i ben ddydd Mawrth 28 Ionawr 2020 am 12:00.
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gweini modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen.
Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae 96 y cant o gwsmeriaid yn fodlon â changhennau lleol ar eu newydd wedd, ac mae bron 20 y cant o gwsmeriaid canghennau lleol yn ymweld y tu allan i’r oriau agor traddodiadol.
Rydym wedi paratoi posteri i’w harddangos yn yr ardal leol i roi gwybod i gwsmeriaid am y newyddion da.
Rydym yn awyddus i adfer gwasanaethau i’r gymuned hon cyn gynted â phosibl, ac felly rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen a’r cynlluniau hyn. Byddem yn croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau penodol ar y newid, megis trefniadau mynediad a’r dyluniad mewnol.
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn Owrtyn.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook