Newtown SY16 1AB - 193644 (Cym)

Ar gau 20 Hyd 2024

Wedi agor 9 Hyd 2024

Canlyniadau wedi'u diweddaru 26 Chwef 2025

Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

6 Stryd Y Farchnad, Y Drenewydd. SY16 2PQ. (lle bu Peter Jacks, Cigyddion Teuluol)

Why are we moving?

Fel y gwyddoch, mae ein partneriaid ac asiantau yn rhedeg canghennau Swyddfa'r Post ochr yn ochr â’u busnesau manwerth, ac mae’n bwysig eu bod yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau i wneud yn siŵr fod y gwasanaeth yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Yn yr achos hwn, mae prydles yr adeilad presennol i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2025. Felly, er mwyn sicrhau gwasanaeth mwy cynaliadwy i’n cwsmeriaid yn y gymuned,  mae’r postfeistr wedi gweld cyfle i symud y gangen hon i’w adeilad arall gerllaw.

Mae’r adeilad dan sylw yn wag ar hyn o bryd a byddai’n cael ei adnewyddu er mwyn cynnwys siop gyfleustra a Swyddfa Bost Y Drenewydd.

Ein blaenoriaeth yw diogelu ein gwasanaethau yn yr ardal yn yr hirdymor a byddai adleoli Swyddfa Bost Y Drenewydd yn golygu y byddem yn gallu cadw gwasanaeth Swyddfa'r Post i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol.

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.

Diddordebau

  • Consultation