Newtown SY16 1AB - 193644 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 26 Chwef 2025
Yn dilyn yr ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Newtown SY16 1AB -Decision dates (Cym), 184.8 KB (PDF document)
Trosolwg
6 Stryd Y Farchnad, Y Drenewydd. SY16 2PQ. (lle bu Peter Jacks, Cigyddion Teuluol)
Why are we moving?
Fel y gwyddoch, mae ein partneriaid ac asiantau yn rhedeg canghennau Swyddfa'r Post ochr yn ochr â’u busnesau manwerth, ac mae’n bwysig eu bod yn gwneud y defnydd gorau o adnoddau i wneud yn siŵr fod y gwasanaeth yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Yn yr achos hwn, mae prydles yr adeilad presennol i fod i ddod i ben ym mis Mawrth 2025. Felly, er mwyn sicrhau gwasanaeth mwy cynaliadwy i’n cwsmeriaid yn y gymuned, mae’r postfeistr wedi gweld cyfle i symud y gangen hon i’w adeilad arall gerllaw.
Mae’r adeilad dan sylw yn wag ar hyn o bryd a byddai’n cael ei adnewyddu er mwyn cynnwys siop gyfleustra a Swyddfa Bost Y Drenewydd.
Ein blaenoriaeth yw diogelu ein gwasanaethau yn yr ardal yn yr hirdymor a byddai adleoli Swyddfa Bost Y Drenewydd yn golygu y byddem yn gallu cadw gwasanaeth Swyddfa'r Post i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:
- Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
- Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
- Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
- Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.
Diddordebau
- Consultation
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook