Mountain Ash CF45 3HB - 172611 (Cym)

Ar gau 25 Meh 2021

Wedi'i agor 14 Mai 2021

Canlyniadau wedi'u diweddaru 29 Hyd 2021

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Diolch i bawb a gymerodd yr amser i adael inni gael eu sylwadau a darparu gwybodaeth yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn cynnig symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd Nisa – Siop Aberpennar, 25b - 26b Stryd Rhydychen, Aberpennar, CF45 3PG.

Pam ydym yn symud?

Rydym yn bwriadu gwneud y symud hwn fel rhan o’r gwaith i foderneiddio ein rhwydwaith o ganghennau. Rydym yn hyderus taw cael cangen leol ochr yn ochr â siop lwyddiannus yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post cynaliadwy yn y gymuned leol yn y dyfodol.

Eich cangen newydd o Swyddfa'r Post

Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn dau fan gwasanaeth modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen. Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae canran uchel o gwsmeriaid yn fodlon â changhennau lleol eu natur, ac mae llawer o gwsmeriaid yn ymweld y tu allan i’r oriau agor traddodiadol.

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a hoffem gael eich barn am y cynllun. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau.

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.