Mountain Ash CF45 3HB - 172611 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 29 Hyd 2021
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Diolch i bawb a gymerodd yr amser i adael inni gael eu sylwadau a darparu gwybodaeth yn ystod ymgynghoriad cyhoeddus.
Ffeiliau:
- Mountain Ash CF45 3HB - Decision (Cym), 253.5 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn cynnig symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd Nisa – Siop Aberpennar, 25b - 26b Stryd Rhydychen, Aberpennar, CF45 3PG.
Pam ydym yn symud?
Rydym yn bwriadu gwneud y symud hwn fel rhan o’r gwaith i foderneiddio ein rhwydwaith o ganghennau. Rydym yn hyderus taw cael cangen leol ochr yn ochr â siop lwyddiannus yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post cynaliadwy yn y gymuned leol yn y dyfodol.
Eich cangen newydd o Swyddfa'r Post
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn dau fan gwasanaeth modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen. Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae canran uchel o gwsmeriaid yn fodlon â changhennau lleol eu natur, ac mae llawer o gwsmeriaid yn ymweld y tu allan i’r oriau agor traddodiadol.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a hoffem gael eich barn am y cynllun. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau.
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook