Mold CH7 1AA - 018614 (Cym)

Ar gau 28 Awst 2019

Wedi agor 31 Gorff 2019

Canlyniadau wedi'u diweddaru 24 Medi 2019

Yn dilyn yr ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r wybodaeth isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rwy’n ysgrifennu i roi gwybod i chi ein bod yn newid y ffordd rydym yn rhedeg Swyddfa Bost Yr Wyddgrug.  O fis Tachwedd 2019 bydd y gangen yn cael ei rhedeg gan bartner masnachfraint annibynnol, sef ZCO Cyf, o’r adeilad presennol, lle bydd yn cynnig yr un dewis gwych o gynhyrchion a gwasanaethau.  Bydd yna oriau agor estynedig ar brynhawniau Sadwrn.

Ni fydd unrhyw newid i gynllun y gangen nes bod ein partner manwerth newydd yn adnewyddu’r adeilad y flwyddyn nesaf. Mae manylion ar y ddalen wybodaeth am y newidiadau y bwriedir eu gwneud. Pe bai raid cau dros dro am gyfnod, byddwn yn gosod posteri yn y gangen i roi gwybod i gwsmeriaid am Swyddfeydd Post eraill y gallant eu defnyddio yn y cyfamser.

Rydym yn gwneud y newid hwn er mwyn cadw gwasanaethau Swyddfa'r Post yn y lleoliad hwn.  Fe fyddwch yn gwybod am newidiadau digynsail ar ein strydoedd mawr a’r heriau sy’n wynebu llawer o fân-werthwyr.  Mae gofynion ein cwsmeriaid yn newid, hefyd. Ein blaenoriaeth yw darparu gwasanaethau diogel sydd yn fasnachol gynaliadwy ym mhob cymuned, er mwyn parhau i ateb gofynion cwsmeriaid yn awr ac yn y dyfodol. Credwn taw’r newidiadau sy’n cael eu wneud gennym yn Yr Wyddgrug yw’r ffordd orau o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post yn y lleoliad hwn. Mae’r mwyafrif helaeth o’r 11,500 o ganghennau Swyddfa’r Bost, yn fach a mawr, yn cael eu rhedeg yn llwyddiannus eisoes gan ddeiliaid masnachfraint annibynnol.