Manselton SA5 9ND - 216642 (cym)

Ar gau 12 Ion 2018

Wedi'i agor 21 Tach 2017

Canlyniadau wedi'u diweddaru 8 Maw 2019

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen. Diolch i bawb a gymerodd yr amser i adael inni gael eu sylwadau a darparu gwybodaeth yn ystod yr ymgynghoriad cyhoeddus. Yn anffodus oherwydd rhesymau gweithredol, caeodd y gangen yn sydyn ar dydd Gwener 8 Rhagfyr 2017. Mae'n ddrwg gennym am yr anghyfleustra a achosir i gwsmeriaid erbyn y cau.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn bwriadu, â chytundeb y Postfeistr, symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – Archfarchnad CK’s – Nisa Local, 60-68, Heol Pentregethin, Cwmbwrla, Abertawe, SA5 8BA. Mae’n dda gennym ddweud y bydd y symud, os wnaiff ddigwydd, yn amodol ar ymgynghoriad, yn golygu newid y gangen i fod yn un o'n canghennau lleol ffasiwn-newydd.

Beth fydd hyn yn ei olygu i gwsmeriaid?

Cangen fodern â chynllun-agored mewn adeilad wedi'i adnewyddu

  • Oriau agor estynedig
  • Yr un cynhyrchion a gwasanaethau ynghyd â Threth y car a dewis ehangach o arian teithio ar gais.
  • Bydd rhai gwasanaethau Swyddfa'r Post ar gael hefyd wrth gownter y siop yn ystod oriau agor y siop
  • Gwell hygyrchedd

Mae'r newid hwn yn rhan o raglen bwysig o foderneiddio ar draws rhwydwaith Swyddfa'r Post, sef y fwyaf yn hanes Swyddfa'r Post Cyf.  Bydd y rhaglen sydd yn dibynnu’n helaeth ar fuddsoddiad gan y Llywodraeth,  yn moderneiddio 8,000 o ganghennau, a cheir buddsoddiad ychwanegol mewn dros 3,000 o ganghennau cymunedol ac allgymorth.  

 

 

 

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.