Maesgeirchen LL57 1LT - 169444 (cym)

Canlyniadau wedi'u diweddaru 17 Ebr 2018

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gwasanaeth.

Ffeiliau:

Ar gau 28 Maw 2018

Wedi agor 14 Chwef 2018

Trosolwg

Mae’n dda gennyf roi gwybod ichi  ein bod wedi adfer gwasanaethau Swyddfa’r Post i gymuned Rhos-y-bol trwy gyflwyno gwasanaeth symudol sy’n cael ei redeg o’r tu allan i 1 Stad Siop Newydd, Rhos-y-bol, Amlwch LL68 9RH.

Er pan gaeodd y gangen hon ym mis Tachwedd 2017, rydym wedi parhau i ystyried sut y gallem adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post yn lleol.  Felly, mae’n dda gennyf roi gwybod ichi y bydd y Postfeistr sy’n rhedeg Swyddfa Bost Symudol Maesgeirchen yn cynnig Gwasanaethau symudol yn y lleoliad hwn. Sefydlu Gwasanaeth symudol yw’r ffordd orau o adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i Ros-y-bol.

Rydym hefyd wedi penderfynu symud Gwasanaeth symudol Llanfairfechan i leoliad newydd, sef Maes Parcio The Village Inn ar Heol Penmaen-mawr am fod problemau traffig yn y lleoliad presennol. Dechreuodd y gwasanaethau hyn ar 5 Chwefror 2018.

Er mwyn darparu’r Gwasanaeth symudol newydd ar gyfer Rhos-y-bol, rydym wedi gwneud ychydig o newidiadau i’r oriau gwasanaeth cyfredol yn Llanfairfechan, Llanfaelog a Moelfre. Dechreuodd y newidiadau hyn hefyd ar 5 Chwefror 2018, ac mae manylion am yr holl newidiadau ar ddiwedd y llythyr hwn. 

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem i chi ddweud wrthym beth ydych chi'n ei feddwl am addasrwydd y lleoliad newydd arfaethedig.