Maesgeirchen LL57 1LT - 169444 (cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 17 Ebr 2018
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gwasanaeth.
Ffeiliau:
- Maesgeirchen LL57 1LT - Penderfyniad, 300.1 KB (PDF document)
Trosolwg
Mae’n dda gennyf roi gwybod ichi ein bod wedi adfer gwasanaethau Swyddfa’r Post i gymuned Rhos-y-bol trwy gyflwyno gwasanaeth symudol sy’n cael ei redeg o’r tu allan i 1 Stad Siop Newydd, Rhos-y-bol, Amlwch LL68 9RH.
Er pan gaeodd y gangen hon ym mis Tachwedd 2017, rydym wedi parhau i ystyried sut y gallem adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post yn lleol. Felly, mae’n dda gennyf roi gwybod ichi y bydd y Postfeistr sy’n rhedeg Swyddfa Bost Symudol Maesgeirchen yn cynnig Gwasanaethau symudol yn y lleoliad hwn. Sefydlu Gwasanaeth symudol yw’r ffordd orau o adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i Ros-y-bol.
Rydym hefyd wedi penderfynu symud Gwasanaeth symudol Llanfairfechan i leoliad newydd, sef Maes Parcio The Village Inn ar Heol Penmaen-mawr am fod problemau traffig yn y lleoliad presennol. Dechreuodd y gwasanaethau hyn ar 5 Chwefror 2018.
Er mwyn darparu’r Gwasanaeth symudol newydd ar gyfer Rhos-y-bol, rydym wedi gwneud ychydig o newidiadau i’r oriau gwasanaeth cyfredol yn Llanfairfechan, Llanfaelog a Moelfre. Dechreuodd y newidiadau hyn hefyd ar 5 Chwefror 2018, ac mae manylion am yr holl newidiadau ar ddiwedd y llythyr hwn.
Pam bod eich barn yn bwysig
Hoffem i chi ddweud wrthym beth ydych chi'n ei feddwl am addasrwydd y lleoliad newydd arfaethedig.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook