Llanedeyrn CF23 9PL - 219611 (Cym)

Ar gau 10 Ebr 2019

Wedi'i agor 27 Chwef 2019

Canlyniadau wedi'u diweddaru 30 Ebr 2019

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symudi y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd, sef Uned 1, Cwrt Lewis, Maelfa, Llanedern, Caerdydd, CF23 9PL.

 Pam ydym yn symud?

 Fel y gwyddoch, mae ein partneriaid ac asiantau yn rhedeg is-ganghennau Swyddfa’r Post ochr yn ochr â’u busnesau manwerth preifat, ac mae’n bwysig eu bod yn gwneud y defnydd gorau o’u hadnoddau i wneud yn siŵr fod eu busnes nhw a’r gwasanaeth Swyddfa'r Post yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol.  Yn yr achos hwn, mae ein partner wedi gweld cyfle i symud y gangen hon i adeilad newydd gerllaw.

Eich cangen Swyddfa'r Post newydd

 Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen. Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae 96 y cant o gwsmeriaid yn fodlon â changhennau lleol ar eu newydd wedd, ac mae bron 20 y cant o gwsmeriaid canghennau lleol yn ymweld y tu allan i’r oriau agor traddodiadol.

*Sylwch, os gwelwch yn dda, y bydd tua 50 metr rhwng y Swyddfa Bost gyfredol ac adeilad y Swyddfa Bost arfaethedig ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu.

 

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.