Llanedeyrn CF23 9PL - 219611 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 30 Ebr 2019
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Llanedeyrn CF23 9PL - Decision(Cym), 436.1 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu symudi y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd, sef Uned 1, Cwrt Lewis, Maelfa, Llanedern, Caerdydd, CF23 9PL.
Pam ydym yn symud?
Fel y gwyddoch, mae ein partneriaid ac asiantau yn rhedeg is-ganghennau Swyddfa’r Post ochr yn ochr â’u busnesau manwerth preifat, ac mae’n bwysig eu bod yn gwneud y defnydd gorau o’u hadnoddau i wneud yn siŵr fod eu busnes nhw a’r gwasanaeth Swyddfa'r Post yn gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Yn yr achos hwn, mae ein partner wedi gweld cyfle i symud y gangen hon i adeilad newydd gerllaw.
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen. Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae 96 y cant o gwsmeriaid yn fodlon â changhennau lleol ar eu newydd wedd, ac mae bron 20 y cant o gwsmeriaid canghennau lleol yn ymweld y tu allan i’r oriau agor traddodiadol.
*Sylwch, os gwelwch yn dda, y bydd tua 50 metr rhwng y Swyddfa Bost gyfredol ac adeilad y Swyddfa Bost arfaethedig ar ôl cwblhau’r gwaith adeiladu.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook