Llandeilo SA19 6HA - 444642 (Cym)

Ar gau 31 Awst 2018

Wedi agor 3 Awst 2018

Trosolwg

Rydym yn falch dros ben yn rhoi gwybod i chi ein bod yn adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i gymunedau Cefneithin a Phum Heol trwy gyflwyno Gwasanaeth Symudol.

Ers i’r gwasanaethau uchod gau, rydym wedi parhau i geisio cael hyd i ffordd o adfer gwasanaethau i’r cymunedau lleol. Felly, rydym yn bwriadu cyflwyno Gwasanaeth Symudol, sydd yn ffordd gyfarwydd o gynnal gwasanaeth i gymunedau bychain. Mae’r Gwasanaeth Symudol yn Swyddfa Bost symudol mewn cerbyd arbennig sy’n dod â gwasanaethau Swyddfa'r Post a chynhyrchion manwerth i gymunedau heb orfod dibynnu ar adeiladau traddodiadol. Bu hyn yn rhan o’n rhwydwaith gweithredol ers rhai blynyddoedd bellach.

Felly, mae’n dda gennym allu dweud wrthych fod y postfeistr o Swyddfa Bost Llandeilo yn fodlon cynnig gwasanaethau i’r lleoliadau uchod. Trwy gyfrwng Gwasanaethau symudol yw’r ffordd orau o adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r cymunedau hyn.

Er mwyn gallu cynnig y Gwasanaethau Symudol bydd rhai newidiadau i’r gwasanaethau presennol ym Methlehem, Brechfa, Carmel, Ffair-fach, Llansawel, Llanwrda a Rhydcymerau, a fydd yn dechrau o ddydd Llun 20 Awst 2018.

Mae’n dda gennym roi gwybod i chi y byddwn yn adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post yng Nghefneithin a Phum Heol ddydd Mercher 22 Awst 2018.

Pam bod eich barn yn bwysig

Hoffem i chi ddweud wrthym beth ydych chi'n ei feddwl am addasrwydd y lleoliad newydd arfaethedig.