Johnstown LL14 1NL - 571614 (Cym)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd: Premier Express, Siop Gyfleustra Johnstown, 16 Y Stryd Fawr, Johnstown, Wrecsam, LL14 2SN, lle byddai’n dal i gael ei rhedeg yn null un o’n prif ganghennau, yn amodol ar ymgynghoriad.
Pam ydym yn cynnig y newid hwn?
Fel y gwyddoch efallai, mae ein Postfeistri yn rhedeg canghennau Swyddfa'r Post ochr yn ochr â’u siopau preifat, ac mae’n bwysig iddynt wneud y defnydd gorau o’u hadnoddau i wneud yn siŵr fod eu busnes a’r gwasanaeth Swyddfa'r Post yn llwyddo. Yn yr achos hwn. mae’r Postfeistr wedi gweld cyfle i symud y gangen hon i leoliad newydd er mwyn dal i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i'r gymuned leol.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:
- Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
- Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
- Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
- Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)
Rhowch Eich Sylwadau i Ni
Diddordebau
- Consultation
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook