Holywell CH8 7AA - 014614 (Cym)

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – Holywell Stores, Victoria Place, Treffynnon, Sir y Fflint, CH8 7TR. Byddai’n dal i gael ei rhedeg yno yn null un o’n prif ganghennau, yn amodol ar ymgynghoriad.

Pam ydym yn argymell y symud hwn?
Ar hyn o bryd mae’r gangen hon yn gweithredu o dan gytundeb byrdymor, ac felly rydym yn bwriadu ei symud i leoliad arall gyda phostfeistr newydd er mwyn bod yn fwy cynaliadwy. Byddai’r adeilad newydd arfaethedig yn cael ei adnewyddu er mwyn cynnwys Swyddfa Bost Treffynnon. Mae’r gweithredydd newydd yn teimlo’n gryf y byddai’r symud yn gymorth i ddiogelu mynediad parhaus i wasanaethau Swyddfa'r Post yn lleol.

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Rhowch Eich Sylwadau i Ni

Yn cau 4 Maw 2026

Wedi agor 21 Ion 2026

Diddordebau

  • Consultation