Hay on Wye – HR3 5AE – 189618 - (Cym)
Trosolwg
Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y bydd Swyddfa Bost Y Gelli, a fu ar gau dros dro, yn ailagor Mawrth 16 Tachwedd 2021 am 13:00. Bydd hyn mewn lleoliad newydd, sef Country Supplies, Heol Rhydychen, Y Gelli, Henffordd, HR3 5AJ, a chaiff yr enw Swyddfa Bost Y Gelli. Bydd gan y gangen newydd oriau agor estynedig a bydd hefyd yn cynnwys siop a fydd yn gwerthu cofroddion, anrhegion, deunydd ysgrifennu a bwydydd anifeiliaid anwes..
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Caiff yr adeilad ei adnewyddu cyn iddo ail-agor.. Mae diogelwch ein cwsmeriaid yn hollbwysig i ni; felly, bydd y gwasanaeth Swyddfa Bost dros dro yn cau ar 1, 2 a 3 Tachwedd 2021 ac yn ail-agor ar 4 Tachwedd 2021 am 13:00. Wedyn bydd y Swyddfa Bost dros dro yn cau i’r cyhoedd ddydd Sadwrn 13 Tachwedd 2021 am 13:00, a bydd y gangen Swyddfa'r Post newydd barhaol yn agor yn swyddogol ddydd Mawrth 16 Tachwedd 2021 am 13:00. Os bydd unrhyw newidiadau nas rhagwelwyd yn golygu newid y dyddiadau hyn, bydd posteri yn cael eu gosod i roi gwybod i gwsmeriaid.
Bydd dau gownter lle gall cwsmeriaid gael yr un dewis o gynhyrchion a gwasanaethau, ynghyd a dewis eang o Arian Teithio, Moneygram a Threth Cerbyd.
Ein blaenoriaeth yw diogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post yn yr ardal yn yr hirdymor. Bydd ail-agor cangen Y Gelli yn parhaol a phenodi postfeistr newydd yn golygu y gallwn gynnal y gwasanaeth i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol.
Rydym wedi darparu posteri i’w harddangos yn y Swyddfa Bost / yr ardal leol i roi gwybod i gwsmeriaid am y newyddion da.
Rydym yn awyddus i adfer gwasanaethau i’r gymuned hon cyn gynted â phosibl, ac felly rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen a’r cynlluniau hyn. Fodd bynnag, byddem yn croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau penodol ar y newid a allai fod o fudd i gwsmeriaid, yn enwedig ynghylch mynediad i’r adeilad a’r drefn y tu mewn.
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn Y Gelli.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook