Foel SY21 0NS - 505641 (Cym)

Ar gau 5 Chwef 2021

Wedi'i agor 8 Ion 2021

Canlyniadau wedi'u diweddaru 4 Meh 2021

Yn dilyn ymgysylltiad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi y bydd Swyddfa Bost Y Foel, ar ôl bod ar gau dros dro, yn cael ei hailagor gennym ddydd Gwener 22 Ionawr 2021 am 08:30.  Bydd hyn mewn lleoliad newydd, sef Siop y Pentref, Cwpan Pinc, Llangadfan, Y Trallwng, SY21 0PL, lle bydd yn cael ei hadnabod fel Swyddfa Bost Llangadfan.

Eich cangen Swyddfa'r Post newydd

Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored a sgrin isel sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen.

Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post dros oriau agor estynedig, fel gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae canran uchel o gwsmeriaid yn fodlon â changhennau lleol ar eu newydd wedd, ac mae llawer o gwsmeriaid yn ymweld â changhennau lleol y tu allan i’r oriau agor traddodiadol.

Rydym wedi darparu posteri i'w harddangos yn Swyddfa Bost newydd Llangadfan i roi gwybod i gwsmeriaid am y newyddion da.

Rydym yn awyddus i adfer gwasanaethau i’r gymuned hon cyn gynted â phosibl, ac felly rydym wedi penderfynu bwrw ymlaen a’r cynlluniau hyn. Fodd bynnag, byddem yn croesawu awgrymiadau ynghylch agweddau penodol ar y newid, megis trefniadau mynediad a’r dyluniad mewnol.

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch i chi am eich cymorth i adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn ardal Y Trallwng.