Flint Mobile Services CH6 5AD - 332614 - Cym

Ar gau 19 Chwef 2025

Wedi agor 22 Ion 2025

Trosolwg

Rydym wrth ein bodd yn rhoi gwybod i chi ein bod yn adfer gwasanaethau Swyddfa’r Post i gymuned Higher Kinnerton trwy gyflwyno Gwasanaeth Symudol parhaol ddydd Llun 6 Ionawr 2025.

Buom yn gweithio’n galed i gael hyd i ffordd o adfer gwasanaethau yn lleol. Profwyd bod Gwasanaeth Symudol, sef Swyddfa Bost deithiol ar fwrdd cerbyd pwrpasol sy'n dod â gwasanaethau a chynhyrchion manwerth Swyddfa'r Post i gymunedau  heb orfod dibynnu ar adeilad parhaol,  yn ffordd dda o gynnal gwasanaeth i gymunedau bychain.

Eich gwasanaeth Swyddfa'r Post newydd

Felly, mae’n dda gennym roi gwybod i chi fod y postfeistr o Swyddfa Bost Y Fflint yn barod i redeg y gwasanaeth Symudol, sef y ffordd orau bosibl o adfer gwasanaethau Swyddfa'r Post i gymuned leol Higher Kinnerton. Bydd y gwasanaeth Symudol hwn yn cael ei redeg yn agos i leoliad gwasanaeth Allgymorth blaenorol Higher Kinnerton ym maes parcio Neuadd y Pentref, Lôn Bennett, Higher Kinnerton, Caer, CH4 9AR.

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Er bod y penderfyniad eisoes wedi'i wneud i ailagor y gwasanaeth Swyddfa'r Post hwn, hoffem gael eich barn o hyd. Rydym yn croesawu adborth a all helpu i lywio ein cynlluniau ac mae’r holiadur isod yn gofyn am sylwadau ar y meysydd canlynol:

  • Pa mor addas ydych chi'n meddwl yw'r lleoliad newydd a pha mor hawdd yw cyrraedd yno?
  • A oes gennych unrhyw sylwadau ar y dyddiau a'r oriau agor?

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am eich cefnogaeth wrth adfer gwasanaeth Swyddfa'r Post yn gymuned leol.

Diddordebau

  • Engagement