Ffrith LL19 7YF - 486614 (Cym)

Ar gau 8 Ion 2018

Wedi'i agor 15 Tach 2017

Canlyniadau wedi'u diweddaru 13 Chwef 2018

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

 

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – Willow Stores Cyf, 287 Victoria Road, Prestatyn, LL19 7UT.  Mae’n dda gennyf ddweud y bydd y symud, os wnaiff ddigwydd, yn amodol ar ymgynghoriad, yn golygu newid y gangen i fod yn un o'n canghennau lleol ffasiwn-newydd.

Beth fydd hyn yn ei olygu i gwsmeriaid?

  • Bydd gwasanaethau Swyddfa'r Post yn cael eu cynnig o ddau dil ar gownter y siop mewn cangen fodern â chynllun agored  
  • Oriau agor estynedig
  • Bydd y rhan fwyaf o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post ar gael o hyd
  • Gwell hygyrchedd

Mae'r newid hwn yn rhan o raglen bwysig o foderneiddio ar draws rhwydwaith Swyddfa'r Post, sef y fwyaf yn hanes Swyddfa'r Post Cyf.  Bydd y rhaglen sydd yn dibynnu’n helaeth ar fuddsoddiad gan y Llywodraeth, yn moderneiddio 8,000 o ganghennau, a cheir buddsoddiad ychwanegol mewn dros 3,000 o ganghennau cymunedol ac allgymorth. 

 

 

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.