Ffrith LL19 7YF - 486614 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 13 Chwef 2018
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Ffrith LL19 7YF - Decision (Cym).pdf, 327.8 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – Willow Stores Cyf, 287 Victoria Road, Prestatyn, LL19 7UT. Mae’n dda gennyf ddweud y bydd y symud, os wnaiff ddigwydd, yn amodol ar ymgynghoriad, yn golygu newid y gangen i fod yn un o'n canghennau lleol ffasiwn-newydd.
Beth fydd hyn yn ei olygu i gwsmeriaid?
- Bydd gwasanaethau Swyddfa'r Post yn cael eu cynnig o ddau dil ar gownter y siop mewn cangen fodern â chynllun agored
- Oriau agor estynedig
- Bydd y rhan fwyaf o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post ar gael o hyd
- Gwell hygyrchedd
Mae'r newid hwn yn rhan o raglen bwysig o foderneiddio ar draws rhwydwaith Swyddfa'r Post, sef y fwyaf yn hanes Swyddfa'r Post Cyf. Bydd y rhaglen sydd yn dibynnu’n helaeth ar fuddsoddiad gan y Llywodraeth, yn moderneiddio 8,000 o ganghennau, a cheir buddsoddiad ychwanegol mewn dros 3,000 o ganghennau cymunedol ac allgymorth.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook