Ferryside SA17 5RN - 359642 (cym)

Ar gau 8 Maw 2018

Wedi'i agor 25 Ion 2018

Canlyniadau wedi'u diweddaru 13 Ebr 2018

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae'r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn cynnig, gyda chytundeb y Postfesur, i symud cangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd - Canolfan Gymunedol Calon Y Fferi, Heol Caerfyrddin, Glanyfferi, SA17 5TE. Rydym yn falch o ddweud wrthych, os bydd y symud yn mynd rhagddo, yn amodol ar ymgynghori, bydd yr adeilad newydd yn cael ei hadnewyddu i ymgorffori Swyddfa'r Post a newid i un o'n canghennau arddull lleol newydd.
 

Beth fydd hyn yn ei olygu i gwsmeriaid?

  • Cynigir gwasanaethau Swyddfa’r Post o dil ar gownter y siop mewn cangen fodern â chynllun agored
  • Oriau agor estynedig
  • Bydd y rhan fwyaf o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post ar gael o hyd
  • Gwell hygyrchedd.

Mae'r newid hwn yn rhan o raglen fawr o foderneiddio sy'n digwydd ar draws rhwydwaith Swyddfa'r Post, y mwyaf yn hanes Swyddfa'r Post Cyf. Mae'r Rhaglen yn cael ei ategu gan fuddsoddiad gan y Llywodraeth a bydd hyd at 8,000 o ganghennau yn cael eu moderneiddio a buddsoddi ychwanegol mewn dros 3,000 o gymunedau a changhennau allgymorth.

 

 

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a byddwn ni'n croesawu'ch barn ar y cynnig. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all helpu i lywio ein cynlluniau.