Dolwyddelan LL25 0NZ - 369470 (Cym)

Ar gau 9 Hyd 2020

Wedi agor 28 Awst 2020

Canlyniadau wedi'u diweddaru 23 Hyd 2020

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Symudwyd y gwasanaeth Swyddfa'r Post hwn gennym i leoliad newydd, sef Y Gwydyr, Heol Caernarfon,  Dolwyddelan,  LL25 0EJ ar 24 Awst 2020.  

Pam symud?

Nid oedd yr adeilad blaenorol ar gael at ddefnydd Swyddfa Bost ar ôl 21 Awst 2020, ac felly cawson hyd i adeilad newydd a symudwyd y gwasanaeth er mwyn gallu parhau i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r gymuned leol. Mae’r gwasanaeth hwn yn dal i gael ei redeg gan y postfeistr o Swyddfa Bost Betws-y-coed.

 

Pam bod eich barn yn bwysig

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a hoffem gael eich barn am y cynllun. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau.

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.