Danescourt CF5 2SF - 202611 (Cym)

Ar gau 5 Ion 2023

Wedi'i agor 24 Tach 2022

Canlyniadau wedi'u diweddaru 16 Chwef 2023

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.

Ffeiliau:

Trosolwg

Rydym yn bwriadu symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd – Siop Gyfleustra 3S, Uned 1,Canolfan Siopa Cwrt Radur, Llandaf, Caerdydd, CF5 2SF. Yn amodol ar ymgynghoriad, byddai'n cael ei rhedeg fel un o’n canghennau lleol eu natur.

Pam ydym yn cynnig y newid hwn?

Rydym yn bwriadu gwneud y newid hwn fel rhan o’r gwaith o foderneiddio ein rhwydwaith o ganghennau. Rydym yn hyderus taw cael cangen leol ei natur ochr yn ochr â siop lwyddiannus yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post cynaliadwy yn y gymuned leol yn y dyfodol.

 

Pam bod eich safbwyntiau o bwys

Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol ynglŷn â’r newid arfaethedig a hoffem gael eich barn Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau. Yn yr arolwg hwn byddwn yn gofyn cwestiynau penodol mewn perthynas â’r meysydd a ganlyn:

  • Cyrraedd y lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 4)
  • Mynd i mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 5)
  • Y tu mewn i’r lleoliad arfaethedig (Cwestiwn 6)
  • Adborth arall (Cwestiynau 7 – 9)

Beth sy'n digwydd nesaf

Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.