Cwmfelinfach NP11 7HQ - 196632 (Cym)
Canlyniadau wedi'u diweddaru 6 Chwef 2020
Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lleol, mae’r llythyr isod yn cadarnhau ein cynlluniau terfynol ar gyfer y gangen.
Ffeiliau:
- Cwmfelinfach NP11 7HQ - Decision (Cym), 542.9 KB (PDF document)
Trosolwg
Rydym yn bwriadu i symud y gangen Swyddfa'r Post uchod i leoliad newydd, sef Fferylliaeth Cwmfelin-fach, 52 Heol Maendy, Cwmfelin-fach, Ynys-ddu, Casnewydd, NP11 7HR, lle bydd yn newid i fod yn un o’n canghennau lleol ffasiwn newydd.
Pam ydym yn symud?
Mae'r postfeistr wedi ymddiswyddo. Felly, bu’n rhaid i ni gael hyd i leoliad arall er mwyn parhau i gynnig gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r gymuned leol.
Ein blaenoriaeth yw diogelu gwasanaethau Swyddfa'r Post i’r gymuned leol yn yr hirdymor. Bydd symud Swyddfa Bost Cwmfelin-Fach yn golygu y gallwn gynnal gwasanaeth Swyddfa'r Post i’n cwsmeriaid yn y gymuned leol.
Eich cangen Swyddfa'r Post newydd
Byddai cwsmeriaid yn cyrchu gwasanaethau Swyddfa'r Post mewn man gwasanaeth modern â chynllun agored sydd yn rhan o gownter y siop. Trwy gydweithio â’r postfeistr, byddem yn addasu patrwm presennol y siop, ynghyd â’r celfi gosod a’r ffitiadau er mwyn gwneud lle i dil Swyddfa’r Post pe bai angen. Bydd y gangen yn cynnig dewis eang o gynhyrchion a gwasanaethau Swyddfa'r Post, fel y gall cwsmeriaid ddefnyddio eu Swyddfa Bost pan mae’n gyfleus. Mae 96 y cant o gwsmeriaid yn fodlon â changhennau lleol ar eu newydd wedd, ac mae bron 20 y cant o gwsmeriaid canghennau lleol yn ymweld y tu allan i’r oriau agor traddodiadol.
Pam bod eich barn yn bwysig
Rydym yn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus lleol a hoffem gael eich barn am y cynllun. Rydym yn croesawu adborth a sylwadau a all gyfrannu at ein cynlluniau.
Beth sy'n digwydd nesaf
Diolch am ystyried ein cynnig. Byddwn yn ystyried unrhyw wybodaeth ac adborth a dderbyniwn wrth i ni gwblhau ein cynlluniau ar gyfer y gangen newydd.
Rhannu
Rhannu ar Twitter Rhannu ar Facebook